|
Y
Gyfundrefn Addysg Yng Nghymru -
Bendith Neu Felltith I'r Genedl?
Gan
Gwilym
ab Ioan
Fel
man cychwyn, i osod y llwyfan ar gyfer yr erthygl hon, da o beth fyddai darllen
y geiriau mewn rhannau o'r adroddiad gan Gomisiynwyr Y Goron ym 1847.
"The
Welsh language is a vast drawback to Wales and a manifold barrier to the moral
progress and commercial prosperity of the people. Because of their language the
mass of the Welsh people are inferior to the English in every branch of
practical knowledge and skill … Equally in his new or old home his language
keeps him under the hatches being one in which he can neither acquire nor
communicate the necessary information. It is the language of old fashioned
agriculture, of theology and of simple rustic life, while all the world about
him is English … He is left to live in an underworld of his own and the march
of society goes completely over his head!.... It is not easy to over-estimate
its evil effects".
Dyfyniad
o Adroddiad Y Comisiwm Brenhinol 1847 (Rhan II tudalen 66)
Cyfeirir
at yr adroddiad hwn, gan Gymry yn gyffredinol, fel "Brad y Llyfrau
Gleision" (atsain o "Frad Y Cyllyll Hirion" o'r bumed ganrif).
Dyma, yn ôl pob tebygrwydd, yw'r union fan ble dechreuodd y dirywiad modern yn
ein hymwybyddiaeth ni o'n hunain fel cenedl, ac ynghlwm â hynny, y gostyngiad
yn y niferoedd sydd erbyn heddiw yn medru'r iaith Gymraeg, ac yn bwysicach fyth
yn ei defnyddio fel iaith weithredol yn y gweithle, yr ysgol a'r cartref.
Diflannu hefyd mae’r deallusrwydd sylfaenol ymhlith ein cenedl am ein
diwylliant cynhenid, ein hanes, ein llenyddiaeth, ein harwyr a'n cyfeiriad i'r
dyfodol - sydd yn seiliedig ar hyn oll, a sydd yn hollol angenrheidiol i gynnal
unrhyw genedl iach sydd am oroesi.
Dyma
eisoes, yn ôl pob tebyg, yw gwraidd y meddylfryd anneallus a welir hyd heddiw
ymhlith rhai Cymry, yn enwedig yn ardaloedd mwy Seisnig y de - sef bod eu hiaith
a'u diwylliant yn rhywbeth diangen iddynt hwy yn y byd modern, ac yn ddibwrpas
iddynt eu trosglwyddo i'w plant, oherwydd credant eu bod yn faich arnynt.
Ym
mis Mawrth 1846 cynigodd yr Aelod Seneddol dros Coventry (rhyw barchedig Gymro
o'r enw William Williams), y dylid gwneud archwiliad - yn ei eiriau ef:
"to examine the state of education in Wales and especially into the
means afforded to the labouring classes of acquiring a knowledge of the English
tongue".
Cafodd
adroddiad manwl o 1,252 o
dudalennau ei draethu a'i gyhoeddi, ar ran Y Comisiwn Brenhinol ym 1847.
Gwnaethpwyd hynny gan dri bargyfreithiwr ifanc o Loegr a ddewiswyd i wneud y
gwaith hwnnw - heb fod gan yr un ohonynt fymryn o wybodaeth na llyfeliaeth am
Gymru, heb sôn am ddim gronyn o brofiad mewn addysg ar lefel y dosbarth
gweithiol ymhlith Cymry'r cyfnod hwnnw.
Yr
oeddent wedi dibynnu'n drwm ar dystiolaeth ail law a wirfoddolwyd gan yr
Offeiriaid Anglicanaidd - gyda llawer o'r rheini wedi eu gwylltio a'u chwerwi tu
hwnt i synnwyr gan dwf Anghydffurfiaeth yng Nghymru, ac felly yr oeddynt ond yn
rhy awyddus i roi argraff israddol ac anghytbwys i'r ymchwilwyr - er mwyn
pardduo effaith Anghydffurfiaeth ar y Cymry. Dibynnai'r Comisiynwyr ymhellach ar
atebion plant bach uniaith Gymraeg i gwestiynau a osodwyd iddynt yn yr unig
iaith a siaradwyd gan yr ymchwilwyr - sef iaith Y Goron - Saesneg. Nid oedd y
trueiniaid o blith y plant bach naill yn deall gair o’r cwestiynau a osodwyd
o'u blaenau, nac yn gallu yngan gair o ateb yn yr iaith estron. Daeth y doethion
ar ran Y Goron i'r casgliad bod methiant y plant i ateb eu cwestiynau yn
seiliedig ar eu twpdra sylfaenol, yn hytrach na'u twpdra hwy yn eu diffyg llwyr
i ddeall na siarad gair o famiaith y plant cyffredin a fodolai ar y pryd yng
Nghymru. Ni wnaed unrhyw ymdrech deg i gyfieithu o un iaith i'r llall, a phan
wnaed hynny yn aml yr oedd y cyfieithiad o safon isel ddifrifol. Er enghraifft,
gofynnwyd i rai plant "tell me how was Jesus killed?" Yr ateb diniwed,
a chywir, a roddwyd gan y mwyafrif oedd "drwy gael ei hoelio ar y pren
syr” y cyfieithiad a gofnodwyd oedd "they seem to think he was nailed to
a stick sir", er syndod ac arswyd i'r ymchwilwyr!
Heb
os yr oedd llawer o'r hyn a adroddwyd am gyflwr gweladwy yr ysgolion a diffyg
athrawon safonol yn weddol gywir, ond aethant ymhell tu hwnt i'w brîff, drwy
gyhuddo'r mwyafrif o drigolion Cymru o fod yn unigryw fochynnaidd, diog, twp,
diegwyddor ac anfoesol yn y cyd-destun rhywiol. Ymhellach, yr oeddynt wedi nodi
bod yr iaith Gymraeg ac Anghydffurfiaeth grefyddol yn uniongyrchol gyfrifol am y
gwendidau hyn oll! Y mae llawer o’r drwgdybiaeth anghyfiawn ac anghywir hon
wedi goroesi i'n dydd ni. Ychydig o blant yn Lloegr sydd heb glywed y rhigwm
bach hiliol hwn:
"Taffy
was a Welshman,
Taffy
was a thief,
Taffy
came to my house,
And
stole a leg of beef."
Neu
ryw fersiwn arall tebyg ohono. Gweler hefyd mor aml y cyfeirir at Gymry fel pobl
dwp a syml, neu'n waeth, fel y dengys yr ymadrodd aflan "sheep
shagger" a ddefnyddir yn rheolaidd wrth fychanu aelodau o'n cenedl.
I ran helaeth y mae’r argraff hon wedi ei selio ar yr hyn sydd wedi dod
yn rhan o ddelwedd y Cymry - trwy effaith adroddiadau swyddogol tebyg i ”Frad
y Llyfrau Gleision". Prawf pendant o hyn yn aml yw ymateb pobl debyg i Dr
Vernon Coleman sydd â cholofn yn y papur wythnosol Seisnig, The
Sunday People. Dyma esiampl o'i ymateb i lythyr oddi wrth un o’i
ddarllenwyr a gyhoeddwyd yn y papur hwnnw ar Awst 11ed eleni:
Lythyrwr
i'r golofn wythnosol:
"We are English and
live in Wales. When our daughter started school we were shocked to discover that
she is being taught Welsh as a first language!"
Ymateb
Dr Coleman:
"In
my view teaching Welsh as a first language is criminal. I think it's
deliberately intellectually disabling a child. Find another school, or another
country, where teachers are responsible enough to realise it is their job to
prepare children for the real world rather than to indulge a few whimsical
nationalists".
Dyna
dystiolaeth amlwg yn 2002 o'r hyn yr ydym wedi ei etifeddu trwy lwyddiant
propaganda du yr Ymerodraeth Brydeinig (Seisnig), ac sydd wedi cael ei feithrin
drwy system addysg Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon dros gyfnod o 132 o
flynyddoedd, o oes y Frenhines Victoria hyd at y dydd hwn. Y mae cyfnod mor
gymharol fyr yn dal ar gof llafar (yr oedd fy hen dad‑cu, a fu farw pan
oeddwn yn wyth oed, yn gallu cyfleu i mi ei brofiad personol o ddefnydd y
"Welsh Not").
Fel
canlyniad i'r ymdrech a wnaed i lunio atebion i'r diffygion a gafodd eu crybwyll
yn yr adroddiad ym 1847 sefydlwyd yr hyn a elwid yn "Ysgolion Bwrdd"
dros Gymru. Yr oedd yna ddau fath arall o ysgolion hefyd, sef "Ysgolion
Cenedlaethol" ac "Ysgolion Brytanaidd" yn cael eu rhedeg gan
fudiadau crefyddol. Yr un peth arwyddocaol oedd mai ysgolion uniaith Saesneg
oeddynt i gyd, ac yr oeddynt yn canolbwyntio gydag angerdd ar gael gwared o
ymwybyddiaeth yr unigolion o unrhyw ddeallusrwydd o'r iaith Gymraeg, ac yn fwy
dinistriol, gwybodaeth am y diwylliant Cymreig a'n hanes/ treftadaeth. Yr unig
achubiaeth ar y dechrau oedd nad oedd gorfodaeth drom, drwy ddeddf gwlad, ar
blant unigol i fynychu unrhyw ysgol, felly nid oedd nifer fawr o blant y werin
dlawd yn dod o dan ddylanwad yr ysgolion hyn.
Yn
sgîl rhoi'r bleidlais i'r dosbarth gweithiol drwy'r Ddeddf Ddiwygio, a gofynion
cynyddol diwydiant am weithlu mwy addysgedig, daeth addysgu'r dosbarth gweithiol
yn flaenoriaeth ar ôl 1867. Darparai'r Ddeddf Addysg, a ddilynodd ym 1870,
ffordd i wella'r diffygion blaenorol. Caniatawyd i "Ysgolion
Cenedlaethol" ac "Ysgolion Brytanaidd" fel y'i gilydd barhau, ond
ble'r oedd y ddarpariaeth yn ddiffygiol, gellid sefydlu "Ysgolion
Bwrdd" a chanddynt rym i sefydlu ysgolion anenwadol wedi'u hariannu drwy'r
trethi lleol.
Gyda
dyfodiad y Ddeddf Addysg Orfodol ym 1870 (Deddf Forster fel y'i gelwid) yr oedd
Llywodraeth Lloegr yn awr yn gweithredu rheolaeth uniongyrchol dros addysg, ac
yn gosod y telerau trwy rym deddfau'r Llywodraeth. O hynny ymlaen doedd yna ddim
dihangfa, yr oedd bellach gan yr Ysgolion Bwrdd yr hawl i orfodi rhieni i
ddanfon eu plant i'r ysgol - er mae’n rhaid dweud nad oedd hynny yn cael ei
wireddu'n gyflawn.
Ym
1876 daeth y Ddeddf Addysg Elfennol i rym (Deddf Sandon). Yr oedd y ddeddf hon
yn rhoi gorchymyn i rieni wneud yn siwr
bod eu plant yn derbyn addysg elfennol mewn darllen, ysgrifennu a rhifyddeg (yn
uniaith Saesneg wrth gwrs). Creodd hefyd Bwyllgorau Presenoldeb i orfodi rhieni
wneud yn siwr bod eu plant yn
bresennol mewn ysgol yn yr ardaloedd ble nad oedd Ysgol Fwrdd yn bodoli.
Ym
1880 daeth Deddf Addysg Elfennol arall (Deddf Mundella) â ehangodd bwerau Deddf
Sandon. Rhoddai'r ddeddf hon orfodaeth llawn ar rieni i ddanfon plant rhwng pump
a deng mlwydd oed i'r ysgol yn ddyddiol.
Yn
arwynebol, gellir gweld bod y deddfau hyn yn bethau da, o ran rhoi addysg
sylfaenol i blant ble nad oedd darpariaeth o'r fath yn bodoli o'r blaen. Y
broblem wrth gwrs oedd bod y deddfau hyn hefyd yn gwneud mwy na gorfodi
llythrennedd ar blant yng Nghymru - yr oeddynt yn offerynnau i ddatgysylltu y
genedl oddi wrth ei gwreiddiau, sef ei hiaith, ei diwylliant a'i hanes. Yr oedd
Ymerodraeth Lloegr yn awr yn rhoi grym i'w Llywodraeth i orffen y gwaith o
chwalu Cymru fel gwlad a chenedl a oedd yn unigryw ac ar wahân. Lle methodd
Deddfau Uno Y Tuduriaid ym 1536 a 1542 i wneud hynny'n llwyr, yr oedd y broses
wleidyddol o 1847 i 1880 - trwy ddarpariaeth wleidyddol yn y maes addysg - wedi
cychwyn cyfnod y diwedd. Byddai'r Cymry - ymhen pedair i wyth cenhedlaeth arall
i lawr y lein - ar eu gluniau, a bron
diflannu yn gyfangwbl. Felly byddai breuddwyd Ymerodraeth Lloegr dros yr oesoedd
(o doddi Cymru i lawr i ddim byd mwy na rhanbarth o'r wlad honno, gyda'r un
iaith, deddfau, diwylliant ac addysg) yn cael ei gwireddu, a hynny flynyddoedd
maith ar ôl i'r ymgyrch hir i wneud hynny drwy’r cledd ddod i ben ar
ddechrau'r bymthegfed ganrif - gyda gorchfygiad gwrthryfel (bron yn
llwyddiannus) Owain Glyndwr.
Yn
awr, yr oedd dannedd gwladychol y bwystfil rheibus yn suddo i fewn i gnawd y
genedl Gymreig. Gwelwyd dyfodiad y "Welsh Not". I'r rheini sydd ddim
yn hollol siwr
o beth oedd y ”pren gorfodaeth" hwnnw dyma ddyfyniad o'r cyfnod pan oedd
y gosb honno mewn grym:
"My
attention was attracted to a piece of wood, suspended by a string round a boy's
neck and on the wood were the words, "Welsh stick". This, I was told,
was a stigma for speaking Welsh. But, in fact, his only alternative was to speak
Welsh or to say nothing. He did not understand English, and there is no
systematic exercise in interpretation.
The
Welsh stick, or "Welsh", as it is sometimes called, is given to any
pupil who is overheard speaking Welsh, and may be transferred by him to any
school-fellow whom he hears committing a similar offence. It is then passed from
one to another until the close of the week, when the pupil in whose possession
the "welsh" is found is punished by flogging. Among other injurious
effects, this custom has been found to lead children to stealthily visit the
houses of their school-fellows for the purpose of detecting those who speak
Welsh to their parents, and transferring to them the punishment due to
themselves." - Henry Vaughan Johnson.
Tactegau
"rhannu a gorchfygu" go iawn - a hynod lwyddiannus. Nid yw'n ddim llai
na gwyrth bod ein cenedl, er yn wanllyd a bregus, wedi dal cyn hired at ei
hunaniaeth a'i hiaith - teyrnged i ystyfnigrwydd sylfaenol y bobl o dras
Geltaidd efallai?

Ar
y cyntaf o Fedi 1891 daeth addysg elfennol trwy dâl i ben, ac o hynny allan yr
oedd pob plentyn yn cael ei addysg elfennol yn ddi-dâl. Yr oedd y rhwyd yn awr
yn casglu plant o blith y werin dlawd, ynghyd â phlant y bobl mwy breintiedig.
Ym 1893 codwyd oedran gadael yr ysgol i un ar ddeg, ac ym 1899 fe'i codwyd
unwaith yn rhagor i ddeuddeg. Ym 1902 o dan Deddf Addysg Balfour gorffennwyd â'r
Ysgolion Bwrdd, a sefydlwyd Awdurdodau Addysg Lleol. Ar ddiwedd y Rhyfel Byd
Cyntaf ym 1818 codwyd oedran gadael ysgol unwaith eto, y tro hwn i bedair ar
ddeg. Yn ddiweddarach gwnaeth Deddf Addysg Butler ym 1944 ymdrech deg i wneud yn
siwr
bod pob plentyn o hynny ymlaen yn cael addysg uwchradd ddi-dâl. Yn syth wedyn
codwyd yr oedran gadael ysgol drachefn, y tro hwn i bymtheg.
Yr
oedd hyn yn allweddol, oherwydd cyn hynny dim ond trwy dâl y gellid sicrhau
addysg uwchradd i blant, a dim ond y rheini a oedd o gefndir mwy breintiedig a
allai ei fforddio. Arhosai plant y tlodion yn yr ysgol gynradd hyd nes bônt yn
bedair ar ddeg - ta beth oedd eu gallu naturiol - ac yna byddent yn gadael i’r
gweithle i lafurio'n gorfforol, neu, os yn bosib, i wneud prentisiaeth fel
crefftwyr, er nad oedd hynny ychwaith yn rhywbeth a allai bawb eu fforddio.
Byddai
plant ôl Deddf Butler yn cael addysg a allai eu gosod ar yrfa academaidd mewn
prifysgol. Gwnaeth hyn lawer i newid sefyllfa gwerin llawr gwlad Cymru. Gwelid
dechrau symudiad amlwg mewn poblogaeth o hynny ymlaen - o gefn gwlad i'r trefi
a'r dinasoedd - dechreuad yr allfudiad modern o bobl ifainc o’u cynefin
traddodiadol - trwy ddylanwad addysg. Yr oedd gwasgedd yn awr arnynt, yn sgîl
addysg uwch, i chwilio am waith oedd yn gytbwys â’u cymhwyster addysgol. Yn
amlach na pheidio golygai hynny fod yn rhaid iddynt symud i ffwrdd ymhell o fro
eu mebyd. Doedd dim llawer o swyddi safonol yng nghefn gwlad, nac yn aml, yng
Nghymru'n gyfangwbl. Parhau y mae’r gwaedlif o bobl ifainc sydd wedi symud
allan o'r ardaloedd lle yn y gorffennol yr oedd cenedlaethau o'u teulu wedi aros
yn sefydlog dros y canrifoedd. Y mae hynny i'w weld fwy heddiw nac erioed o'r
blaen. Y rhan o gymdeithas sydd wedi eu heffeithio fwyaf yw plant pobl "tai
bach”, gweithwyr cyflogedig, neu blant tyddynwyr a thebyg. Nid yw plant y tir
feddianwyr a'r ffermwyr mwy cefnog wedi eu heffeithio cynddrwg oherwydd bod
ganddynt hwy yn aml y siawns i weithio gartref ar y fferm deuluol. Y mae hyn
hefyd wedi cael dylanwad ar y croes doriad o bobl sydd bellach yn byw mewn
ardaloedd cefn gwlad, a chymunedau yr ardaloedd hynny yn gyffredinol.
Yr
wyf i fy hunan yn esiampl o'r newid hwn. Cofiaf aml bregeth gan fy nhad pan
oeddwn yn blentyn ysgol "gna di’n siwr
bod ti'n bwrw mewn i'r gwaith ysgol na, neu myn' allan ym mhob tywydd a bag bwyd
ar dy ysgwydd fydd dy dynged tithe 'to fel fi". Masiwn oedd fy nhad, yn
crafu bywoliaeth yma ac acw (pan yr oedd gwaith i'w gael), tra'r gweddill o'r
amser yn nychu byw ar dyddyn diffaith ar lethrau Mynydd Bach ym mherfeddion
Ceredigion. Yr oedd ef, er yn blentyn galluog, fel llawer o'i flaen, wedi gadael
yr ysgol yn bedair ar ddeg oherwydd nad oedd siawns ganddo i wneud dim arall
oherwydd tlodi. Yr un oedd tynged ein teulu dros genhedloedd di-ri'; yr oeddem
wedi cael ein geni a'n magu yn yr un bwthyn bach tair ystafell a hanner llofft
am o leiaf deg cenhedlaeth; gwn hynny oherwydd gallwn ddilyn ein teulu ni nôl
cyn belled â hynny trwy draddodiad llafar. Yfi, (heblaw am hen ewythr i mi a
aeth ymlaen i fod yn bregethwr, oherwydd ei fod wedi gwneud penderfyniad i aros
yn sengl, ac yna mynd i weithio'n galed mewn pwll glo, ymhell o gartref, tra’n
cynilo pob dimai brin i dalu am ei addysg, a hynny
am flynyddoedd hir heb ddim amser hamdden) oedd y cyntaf i dderbyn addysg
uwch. Yr oeddwn i o'r genhedlaeth gyntaf i achub mantais lawn ar addysg ddi-dâl,
ac fe euthum ymlaen i raddio fel peiriannydd yn y maes electroneg - doedd dim
gwaith i beiriannydd o'r fath hwnnw ym mro fy mebyd. Fe'm gorfodwyd felly i
weithio yn ninasoedd Seisnigaidd y de am bron i chwarter canrif, hyd nes i'm
sefyllfa (yn hollol ddamweiniol) newid, ac fe gefais y siawns i ddychwelyd nôl
gartref. Addysg! Achubiaeth y werin! Ond beth fyddai'r pris i'r genedl yn ei
chyfanrwydd yn y pen draw? Oherwydd addysg cyfundrefn gwlad estron oedd yn cael
ei gwthio i lawr ein gyddfau, ac yr oedd yn hollol anaddas ar ein cyfer, ond yn
waeth na hynny, y mae wedi ein dinistrio fel cenedl.
Nid
oedd rhaid iddi fod felly. Yn ôl yn y bymthegfed ganrif yr oedd Owain Glyndwr
yn cynllunio ar gyfer cyfundrefn addysg unigryw yng Nghymru. Yn anhygoel, yr
oedd ei weledigaeth ef yn bellgyrhaeddol ac yn hynod o "fodern" ac
ymhell o flaen ei hamser. Yr oedd Owain ei hunan yn ysgolhaig (oherwydd iddo
gael ei eni i deulu breintiedig) ac yr oedd wedi pendroni ar beth fyddai effaith
addysg ar y bobl gyffredin. Yr oedd wedi rhoi cynlluniau ar waith i sefydlu
prifysgolion cwbl Gymraeg yng Nghymru, a phwy a wyr beth fyddai'r canlyniadau i'n
cenedl wedi bod erbyn heddiw pe bai ef wedi ennill y dydd, ac wedi gallu
gwireddu ei freuddwydion? Ond nid felly y bu.
Erbyn
1731 'roedd ymdrechion y Gymdeithas Er Taenu Gwybodaeth Gristnogol yng Nghymru
yn chwythu eu plwc, ond yna, cymerodd un o'i chefnogwyr mwyaf pybyr, Gruffudd
Jones, rheithor Llanddowror, yr awenau drwy sefydlu ei ysgolion cylchynol ei
hun. Erbyn adeg ei farwolaeth ym 1761, roedd 3,495 o ysgolion wedi'u sefydlu a
158,000 o ddisgyblion o bob oedran wedi'u dysgu i ddarllen. Parhawyd ei waith
gan Madam Bevan, hyd nes iddi farw ym 1779. Erbyn yr adeg honno credir bod dros
200,000 o bobl wedi mynychu'r ysgolion hyn, bron i hanner poblogaeth Cymru. Drwy
addasu ymdrechion y Gymdeithas ar gyfer anghenion Cymru, roedd y mwyafrif o'r
Cymry erbyn ail hanner y 18fed ganrif yn medru darllen ac ysgrifennu - cryn
orchest yn y cyd-destun Ewropeaidd. Gwnaeth ysgolion Gruffudd Jones gyfraniad
aruthrol i fywyd Cymru a pharhad yr iaith Gymraeg. Dyma oedd dechreuad addysg
elfennol yn ei ffurf fodern yng Nghymru, ond ni chafodd y siawns i ddatblygu yn
gyfundrefn lawn wedi ei haddasu i anghenion unigryw y genedl, gyda ffurfafen
eang o bynciau addas. Y Beibl oedd unig werslyfr ysgolion Gruffudd Jones.
Yn
ddiweddarach, sefydlwyd yr Ysgol Sul yng nghyfnod Thomas Charles o'r Bala.
Gellir dadlau bod yr ysgol hon yn un o'r mwyaf democrataidd o unrhyw fath, a
chanddi'r dull gweithredu mwyaf effeithiol oll. Yr oedd yn ysgol i bawb, o blant
i fyny i oedolion. Ei hiaith oedd iaith yr ardal lle'r oedd yn cael ei
chynnal. Yr oedd ei hathrawon wedi eu dewis am eu heffeithiolrwydd, ac yr oedd
yn hawdd eu symud o un dosbarth i'r llall yn ôl yr angen, ac fel yr oeddynt yn
gweithredu orau. Os nad oeddent yn effeithiol byddent yn symud o'u hewyllys eu
hunain yn ôl i ddosbarth yr athrawon - ble'r oedd pawb yn gyfartal. Yr oedd y
Cyfarfod Llenyddol yn fersiwn secwlar o'r Ysgolion Sul ac yr oeddynt yn
canolbwyntio ar ddysgu am lenyddiaeth, barddoniaeth, diwylliant a hanes Cymru.
Cymerai'r pynciau hyn le dysgeidiaeth am hanes yr Iddewon, Y Salmau a'r
Efengylau. Y mae'r ysgolion yma wedi parhau hyd heddiw mewn gwahanol ffurfiau
oddi fewn i gymdeithasau capeli, er eu bônt yn cyflym ddiflannu gyda chwymp
poblogrwydd crefydd yn yr ail hanner o'r ugeinfed ganrif. Heb os, dyma sydd wedi
cynnal y genedl o ran dysgeidiaeth ddiwylliannol, hanesyddol a ieithyddol.
Erbyn
dechrau'r ugeinfed ganrif yr oedd y rhai mwyaf llygad agored yn ein plith yn
gweld yr ysgrifen ar y wal. Yr oedd yn amlwg gyda phob cenhedlaeth â oedd yn
mynd drwy'r gyfundrefn addysg Brydeinig/ Seisnig yng Nghymru eu bod yn pellhau'n
barhaus oddi wrth eu gwreiddiau a'u hymwybyddiaeth am eu cenedl a'u hunaniaeth.
Yr oedd yr iaith yn cyflym ddiflannu mewn rhai ardaloedd - yr oedd yr haul yn
machlud arnom. Dan ddylanwad Owen M
Edwards, Prif Arolygydd Ysgolion Cymru o 1907
hyd 1920, hyrwyddwyd yr iaith mewn
ysgolion cynradd a dysgwyd iaith a llenyddiaeth
Gymraeg fel pwnc yn yr ysgolion uwchradd. Cafodd hyn yr effaith o arafu
rhywfaint ar y dirywiad.
Yn
ystod y cyfnod hwn ymunodd eraill yn y frwydr, a gwelwyd deffroad
cenedlaetholdeb. Yr oedd yna bobl ddiwylliannol a thalentog o blith y genedl yn
barod i gamu fewn i drio achub y sefyllfa. Cyfeiriwyd yr egni hwn gan rai tebyg
i Saunders Lewis (arweinydd Plaid Genedlaethol Cymru a sefydlwyd ym 1922) tuag
at sefydlu grym gwleidyddol gyda'r pwrpas o amddiffyn yr iaith a'r diwylliant
trwy ennill grym ac annibyniaeth oddi wrth Lloegr. Dechreuodd mudiadau gael eu
sefydlu, tebyg i Urdd Gobaith Cymru (hefyd ym 1922) o dan arweiniad Syr Ifan ab
Owen Edwards. Yr oedd y rhain i gyd yn sylweddoli bod ein cenedl a'n hunaniaeth
yn gyflym ddirwyn i ben.
Heb
eithriad yr oeddynt i gyd yn canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg, a da o beth oedd
hynny. Ond, SYMPTOM o'r afiechyd yw'r dirywiad yn y nifer sy'n
defnyddio'r iaith. Y mae'n gyffelyb i weld dail yn crino ar goeden, nid oes dim
pwrpas rhoi egni i fewn i adfer y dail os yw'r goeden yn cael ei gwenwyno drwy'i
gwreiddiau - yn y diwedd marw wnaiff y cyfan, a diflannu wna'r dail ta beth.
Gwelwn
yr un peth hyd heddiw, gyda dyfodiad mudiadau tebyg i Gymdeithas yr Iaith,
Mentrau Iaith, Ysgolion Cymraeg, Cylchoedd Meithrin ac yn y blaen. Y maent i gyd
yn canolbwyntio ar adfer y dail, heb sylweddoli ei bod yn angenrheidiol iddynt
gyfeirio eu hymdrechion at yr hyn sy'n gwenwyno'r goeden. Y mae yna fudiadau
eraill tebyg i Cymuned sy'n ymdrechu'n galed i ddal y llifddorau ynghau, ac yn
gwneud yn siwr
bod y broses o ddirywiad yn cael ei harafu i lawr yng nghyd destun y cymunedau
traddodiadol yn y bröydd Cymraeg - mae'n rhaid gwneud hyn wrth gwrs - yr wyf i
fy hunan yn aelod o Bwyllgor Gwaith y mudiad hwn - ond dim ond prynu amser y
mae'r ymdrechion hyn i gyd.
Y
mae rhai yn ein plith yn ddigon naïf i gredu bod yna achubiaeth ar y gorwel
oherwydd y twf cynyddol yn y nifer sy'n dysgu'r iaith, credant fod llwyddiant
ysgolion Cymraeg yn y de yn arwydd
pendant o hyn - maent yn twyllo eu hunain. Gyda phob parch i bob dysgwr
gwerthfawr yn ein plith, ond mae'n bosib dysgu parot i siarad Cymraeg - nid yw
hynny yn gwneud y parot yn Gymro, ac nid yw'r aderyn hwnnw yn cyfrif ei hunan yn
ran o unrhyw genedl unigryw. Os edrychwn ar y sefyllfa yn yr ardaloedd mwy
Seisnig (o ran iaith a diwylliant) ble mae'r ysgolion Cymraeg yn ffynnu, gwelwn
fod y disgyblion yn dysgu yngan yr iaith, ac yn aml i lefel rugl a da, ond pan
edrychwn yn fwy manwl gwelwn fod yr holl ymdrech hon yn wastraff llwyr, oherwydd
bod y disgyblion hynny, heb eithriad, yn siarad Saesneg ar lefel gymdeithasol, a
hefyd yn y gweithle ar ôl gadael yr ysgol yn un ar bymtheg. Ymhen ychydig iawn
o amser maent yn anghofio'r iaith yn llwyr. Pam? Oherwydd mai ymarfer mewn adfer
dail yw'r cyfan - y mae'r goeden yn dal i wywo. Hefyd, mae'n rhaid cyfaddef bod
yna ganran fawr o rieni yn danfon eu plant i ysgolion Cymraeg oherwydd safon
gyffredinol yr ysgol, ac nid oherwydd unrhyw deyrngarwch i'r iaith. Ar y llaw
arall, pan fo pobl wedi eu meithrin mewn addysg gyflawn am eu cefndir a'u
diwylliant, eu harwyr a'u brwydron, yr anghyfiawnder dynol yn ein herbyn dros yr
oesoedd, mae bron yn amhosib eu dal yn ôl rhag dysgu'r iaith - dyna'r eisin ar
y gacen, mae'n rhywbeth sydd yn dod yn naturiol, ac y mae pawb yn ymfalchïo
ynddi, ac yn ei diogelu drwy wneud yn siwr
ei bod yn cael ei throsglwyddo i'w plant. Mae'n destun balchder iddynt. Heb yr
addysg gyflawn baich yw dysgu miloedd o eiriau newydd ar gyfer rhyw hen iaith
lychlyd nad oes neb yn ymddiddori ynddi. Mewn sefyllfa o'r fath does yna ddim
ysbrydoliaeth ar gael i baratoi sail ar gyfer mynd ati o ddifrif i ddysgu'r
iaith. Yn aml peth hollol artiffisial ydyw, ac yn aml y mae'n troi allan i fod
yn wastraff llwyr.
Dyma
graff sy'n dangos y cwymp yn niferoedd y bobl a fedrai’r iaith Gymraeg yng
Nghymru rhwng y cyfnod 1891 hyd 1971 (defnyddiwyd ffigurau o archif cyfrifiadau
swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru). Cofier, fel dywedwyd ynghynt, mai
symptom o'r afiechyd sy'n cael ei adlewyrchu yn y niferoedd sydd yn medru, ac yn
dal i ddefnyddio'r iaith. Y mae'r iaith fan hyn yn cael ei defnyddio fel
baromedr i ddangos yr hyn sy'n digwydd yn gyffredinol.
.jpg)
Yn
ddiddorol, mae'r cwymp a ddangosir yn y graff hwn ar raddfa llinellol (linear)
yn hytrach nac yn logarithmig fel byddai'r disgwyl. Y mae hyn yn cyfleu i ni bod
y rheswm sylfaenol dros y cwymp hefyd yn rhywbeth llinellol. Yn amlwg mae yna
amryw ffactorau sydd yn cael effaith ar y niferoedd sy'n medru'r iaith, ond
mae'r effeithiau hynny i raddau helaeth yn cael eu hamlygu'n fwy lleol, ac nid
ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn y darlun mwy eang dros y wlad i gyd. Y mae'r
graff hwn yn dangos nifer y siaradwyr fel canran o'r boblogaeth dros Gymru
gyfan. Mae'r ffactor bennaf, sydd yn cael yr effaith o achosi'r cwymp, yn
rhywbeth sydd yn dylanwadu'n gryf a pharhaol ar y genedl ‑ a hynny heb
newid bron ddim dros y cyfnod o 70 o flynyddoedd y mae'r graff uchod yn ffenestr
arno.
Er
enghraifft, gweler be ddywed y cwango annemocrataidd ac aneffeithiol mwyaf sydd
gennym yng Nghymru - sef Bwrdd yr Iaith Gymraeg - am y dirywiad yn y nifer sydd
yn gallu'r Gymraeg. Dywedant hwy bod y dirywiad yn uniongyrchol ddibynnol ar y
ffactorau canlynol - a dim arall. Dyfynnaf eu geiriau:
-
patrymau
ymfudo o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol i chwilio am waith
-
mewnfudiad
siaradwyr Saesneg i ardaloedd gwledig
-
mwy a mwy o
gyfryngau newyddion ac adloniant, drwy gyfrwng y Saesneg
-
datblygiad
cymdeithas sy'n gyffredinol yn fwy secwlar, yn arwain at leihad dylanwad y
capeli, a fu'n ganolbwynt cymaint o weithgareddau Cymraeg traddodiadol.
I
ddelio gyda'r cyntaf.
Y mae'r patrymau ymfudo o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol i chwilio am
waith yn newid yn enfawr o un degawd i'r llall. Oherwydd bod y nifer sy'n byw yn
yr ardaloedd gwledig yn ganran mor fach o boblogaeth y wlad yn ei chrynswth, nid
yw'n cael effaith andwyol ar y niferoedd sy'n medru'r Gymraeg dros Gymru gyfan.
Y mae'r ffactor hwn yn effeithio'n amlwg ar y bröydd Cymraeg sydd ar ôl gennym
ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, ond nid dyma beth sydd y tu ôl i'r cwymp
llinellol dros saithdeg o flynyddoedd. Y mae'r effaith yn cael ei gweld yn fwy
amlwg ar raddfa blwyfol heddiw oherwydd bod y bröydd Cymraeg yn ffocws i ni weld
y dirywiad yn gliriach. Nid ydyw yn datgelu'r gwir achos.
Yn
ail.
Eto er bod yna dwf anferth yn y nifer o bobl uniaith Saesneg sy'n symud i
fewn i'r ardaloedd gwledig, nid hynny sy'n cael yr effaith dros Gymru gyfan. Y
mae yna ardaloedd poblog yn y de sydd heb gael eu dylanwadu fawr ddim arnynt gan
fewnfudwyr uniaith Saesneg, felly gweld yr ydym yma eto effaith ar raddfa fechan
mewn cymhariaeth â holl boblogaeth Cymru. Mae effaith y ffactor hwn yn cael ei
chwyddo yn ein llygaid oherwydd ei fod yn cael effaith uniongyrchol a difrifol
ar yr ychydig ardaloedd Cymraeg eu hiaith sydd ar ôl gennym. Ac mae'n amlwg bod
yn rhaid gwneud rhywbeth amdano ar fyrder, oherwydd mae angen diogelu beth sydd
bellach yn nifer peryglus o isel o ardaloedd Cymraeg eu hiaith sydd gennym ar ôl.
Nid hyn, serch hynny, sydd wedi achosi'r cwymp llinellol.
Yn
drydydd.
Nid oedd gan y cyfryngau newyddion ac adloniant unrhyw effaith o gwbl
ar y genedl tan ganol yr ugeinfed ganrif. Ac wedyn gwella y mae'r sefyllfa honno
wedi gwneud gyda dyfodiad rhaglenni sydd yn cael eu darlledu trwy gyfrwng y
Gymraeg. Nid oedd yna orsafoedd radio Cymraeg eu hiaith ar gael tan yn gymharol
ddiweddar ar y graff a ddangosir uchod ‑ heb sôn am S4C. Pe bai hyn yn
brif ffactor byddai wedi cael effaith bositif yn hytrach na negyddol ar y
ffigyrau. Nid yw hynny yn golygu nad yw'r safon o ddarlledu yn warthus o isel,
ac yn llawn o fratiaith a Saesneg diangen, sydd yn rhoi cymorth i'r dirywiad! Ar
y cyfan gallwn anwybyddu'r ffactor hwn yn llwyr.
Ac
yn olaf,
Datblygiadau secwlar cymdeithas a dirywiad y capeli a'u dylanwad yn y
gymuned. Yr oedd y capeli yn eu hanterth ar ddechrau'r ugeinfed ganrif gyda'r
jiwbilî Methodistaidd ac yn y blaen yn gyrru'r agenda gymdeithasol. Hyd at
hanner yr ugeinfed ganrif doedd yna bron ddim gwahaniaeth yn nylanwad y capeli -
yr oedd yn weddol sefydlog heb newid llawer o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar
bymtheg. Os yw hwn yn ffactor dylanwadol fe fyddem wedi gweld y ffigurau o
siaradwyr Cymraeg dros Gymru yn aros yn gymharol debyg tan bumdegau yr ugeinfed
ganrif, ac wedyn byddent wedi
ymddangos ar y graff fel llinell logarithmig. Fel byddai dylanwad y capeli'n
plymio'n gyflym tuag at ddiwedd yr ugeinfed ganrif, byddai'r graff yn dangos yr
un peth. Fel mae'r capeli yn rhoi'r bai ar gymdeithas secwlar a dyfodiad y
neuadd bingo a theledu am eu amhoblogrwydd hwy, mae Bwrdd yr Iaith yn rhoi'r bai
ar ddirywiad y capeli am y gostyngiad yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg!
Gallwn
anwybyddu pob un o'r rhesymau a
nodwyd uchod gan ein cyfeillion o'r Bwrdd Iaith. Nid ydynt ddim
callach na'r dyfyniad hwn, gan rywun a oedd yn anghywir yn ei ddadansoddiad, ond
yn nes at wraidd y broblem:
"Strange
notions, has he?" said the old man. "Ah,
there's too much of that sending to school in these days! It only does
harm. Every gatepost and barn's door you come to is sure to have some bad word
or other chalked upon it by the young rascals: a woman can hardly pass for shame
sometimes. If they'd never been taught how to write they wouldn't have been able
to scribble such villainy. Their fathers couldn't do it, and the country was all
the better for it."
Thomas
Hardy, The Return of the Native, Llyfr 2, Pennod 1.
Y
mae pob cenedl sydd am oroesi yn ddibynnol ar blethen o dri chordyn. Nid yw'n
bosib gwneud plethen gyda llai na thri. Yr hyn a gynrychiola y tri chordyn ymhob
cenedl yw:
-
Hanes
-
Diwylliant
-
Iaith
Os
gwneir i ffwrdd ag unrhyw un o'r tri yma, mae'r ddau arall yn dechrau llithro a
dirywio, ac o ganlyniad mae'r genedl yn colli ei hunaniaeth ac yn araf
ddiflannu. Os gwneir i ffwrdd â dau o'r tri uchod mae'r dirywiad yn llawer mwy
cyflym. Trwy drawsblannu diwylliant a hanes estron i gymeryd lle diwylliant a
hanes traddodiadol unrhyw genedl mae'r iaith draddodiadol yn lleihau ac yn
diflannu - mae'r genedl yn marw. Dyna sydd wedi digwydd yng Nghymru ers diwedd y
bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Y
mae yna esiamplau di-ri o hyn yn digwydd dros y byd. Y mae hefyd yn rhywbeth
sydd wedi cael ei hyrwyddo gan y cenhedloedd gwladychol ac ymerodrol ar hyd eu
hanes. Mae’n
broses sydd yn cael ei defnyddio i ymdoddi cenhedloedd bach a bregus i fewn i
grombil y cenhedloedd mawrion. Gweler hanes dirywiad pobl gynhenid Gogledd
America - yr un yw'r dacteg, hefyd gyda'r Aborigine yn Awstralia, neu'r Maori yn
Seland Newydd a hefyd y cenhedloedd gwreiddiol yn ne America. Yr un ffactor sydd
yn gyffredin i'r rhain i gyd: maent oll yn cael eu gwthio i mewn i gyfundrefn
addysg eu gorchfygwyr, ac o ganlyniad yn cael eu trawsnewid trwy gydymffurfio â’r
sustem honno. Yr enghraifft mwyaf systematig ddiweddaraf yw China a Tibet - ble
mae China wedi gwahardd dysgu'r iaith Dibetaidd yn yr ysgolion, am eu bod wedi
methu cymhathu'r bobl fel arall. Yr un yw'r patrwm dros y byd, a'r diffyg yw bod
y genedl sydd yn cael ei heffeithio yn tueddu i ymateb i'r symptomau, yn hytrach
nac ymateb drwy ymosod ar yr achosion.
Mae
athrawon mewn ysgolion Cymraeg yn aml yn bigog pan mae hyn yn cael ei ddatgelu
iddynt, teimlant o bosib fod eu hymdrechion canmoladwy i gadw'r Gymraeg yn fyw
yn cael eu tanseilio, ond y gwirionedd yw mai dysgu cwricwlwm Lloegr maent yn ei
wneud trwy gyfrwng y Gymraeg - yr un yw'r effaith yn y pen draw. Er bod yna
gyfaddawdu wedi bod yng nghyd-destun defnydd o'r iaith Gymraeg yn yr ysgolion,
nid yw hynny yn mynd i achub y genedl. Y mae'r pynciau eraill, er iddynt gael eu
dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn cyfleu i bob plentyn syniadaeth ac athroniaeth
yr Ymerodraeth Seisnig, ac mae'r plant o ganlyniad yn colli gafael ar eu
hunaniaeth. Mae dysgu'r iaith Gymraeg wedyn yn ddibwrpas iddynt.
Ers
dyfodiad y cwricwlwm "cenedlaethol" (Prydeinig) trwy Ddeddf Addysg
1988 y mae'r pynciau yn dod o dan dau bennawd - pynciau craidd (Saesneg,
rhifyddeg a gwyddoniaeth) a phynciau sylfaenol (celf/ dylunio, technoleg,
daearyddiaeth, hanes (gyda gogwydd tuag at Brydeindod), cerddoriaeth ac addysg
gorfforol, yna o oedran un ar ddeg dysgant iaith estron. Dewiswch chi ble mae
hanes a threftadaeth Cymru a'r iaith Gymraeg yn syrthio i fewn i'r darlun hwn.
Does dim eisiau dweud rhagor. Clwt bach newydd ar hen drowser yw'r
"Cwricwlwm Cymraeg" fel ei elwir.
Y
gwenwyn sydd yn cael ei fwydo i wreiddiau'r goeden soniwyd amdani fel enghraifft
yn gynharach yw cyfundrefn addysg Lloegr. Honno sydd â'i dechreuad yn ôl yn y
cyfnod tyngedfennol hwnnw 132 o flynyddoedd yn ôl, ac sydd yn dal ar waith yng
Nghymru. Dyma'r ffactor llinellol sydd yn gwneud i'r graff uchod o ddirywiad yr
iaith dros Gymru gyfan ddangos i fyny yn un llinellog. Dyma'r un ffactor cyson
trwy gydol y saithdeg o flynyddoedd a edrychwyd arnynt dros y degawdau sy'n
ymestyn o 1891 hyd 1971.
Os
na chawn newid yn y gyfundrefn addysg yn y dyfodol agos bydd ar ben arnom waeth
pa mor uchel y canwn "Yma o Hyd",
waeth pa mor bositif y siaradwn am yr iaith yn para am byth, na pha mor
llwyddiannus y byddwn yn agor rhagor o Ysgolion "Cymraeg", waeth faint o sloganau beintiwn ni ar hyd ochrau'r ffyrdd,
waeth faint ofynnwn am Ddeddfau Iaith/ Eiddo newydd. Y gwirionedd plaen yw ei
bod ar ben arnom nes byddwn wedi sylweddoli ym mha ffordd mae'r gelyn yn
gweithredu'n gudd, ac mae'r dystiolaeth a'r atebion yn syllu'n syth i'n wynebau,
ond am ryw reswm yr ydym yn gyndyn o dderbyn hyn - neu 'rydym yn sefyll mor agos
i'r pren nes ein bod yn methu gweld y goedwig. Efallai byddai'n syniad sefyll yn
ôl oddi wrth yr iaith ac edrych yn fanylach ar beth sydd yn achosi’r broblem
ynglyn
â hi.
Y
mae'n RHAID cael Deddf Addysg i Gymru. Y mae'n rhaid cael cyfundrefn addysg sydd
wedi ei chynllunio yn benodol ar ein cyfer ni fel cenedl, ac a fyddai yn ein
galluogi i gydweithio yn heddychlon ac effeithiol gyda chenhedloedd eraill y byd
- yn annibynnol o unrhyw ymyrraeth gan Loegr.
Pe
bai hyn yn cael ei wireddu byddai'r arolygon yn dda. Byddai'n bosib gwyrdroi'r
sefyllfa o fewn un genhedlaeth, ac yna adeiladu ar hynny. Y mae Cuba yn esiampl
ardderchog o'r ffordd mae Fidel Castro wedi gwyrdroi sefyllfa debyg yno. Y
gyfrinach yw ei fod wedi canolbwyntio ar addysgu ei bobl yn gywir, ac maent hwy
wedi mynd o fod yn genedl di-gyfeiriad oedd wedi colli gafael ar ei hunaniaeth i
genedl sydd yn awr ar y pen arall i'r pegwn. Y mae ganddynt y cyfundrefnau gorau
yn y byd o ran addysg a iechyd sydd
yn eu siwtio hwy yn berffaith fel cenedl annibynnol.
Cyn
gallwn ni wneud yr un peth mae'n rhaid i ni fel cenedl feddwl yn ddwys am sut y
gallwn, yn y lle cyntaf, ennill annibyniaeth drwy'r system wleidyddol, ac yna
ailafael yn ein plant a'u cyfeirio i ddyfodol sicr a diogel.
________________
Gwilym ab Ioan, Rhagfyr 2002 ____________
|